Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Queen Elizabeth II on 3 June 2019.jpg
Ganwyd Elizabeth Alexandra Mary Windsor Edit this on Wikidata
21 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Mayfair Edit this on Wikidata
Man preswyl Palas Buckingham, Castell Windsor, Castell Balmoral, Tŷ Sandringham, Palas Holyrood Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth teyrn Edit this on Wikidata
Swydd Supreme Governor of the Church of England, Head of the Commonwealth, monarch of the Dominion of Ceylon, monarch of the Dominion of Pakistan, monarch of the Union of South Africa, monarch of the commonwealth realm of Ghana, monarch of the Federation of Nigeria, monarch of the commonwealth realm of Sierra Leone, monarch of the commonwealth realm of Trinidad and Tobago, monarch of the commonwealth realm of Uganda, monarch of the commonwealth realm of Kenya, monarch of the State of Malta, monarch of the commonwealth realm of the Gambia, monarch of the commonwealth realm of Guyana, monarch of the commonwealth realm of Mauritius, monarch of the Dominion of Fiji, monarch of Jamaica, monarch of Barbados, monarch of the Bahamas, monarch of Grenada, monarch of Papua New Guinea, monarch of the Solomon Islands, monarch of Tuvalu, monarch of Saint Lucia, monarch of Saint Vincent and the Grenadines, Teyrn Belîs, monarch of Antigua and Barbuda, monarch of Saint Kitts and Nevis, Monarch of New Zealand, monarch of Tanganyika, teyrn y Deyrnas Gyfunol, monarch of Malawi, Teyrn Awstralia, teyrn Canada, Lord of Mann, Duke of Lancaster Edit this on Wikidata
Taldra 64 ±2 Modfedd Edit this on Wikidata
Tad Siôr VI Edit this on Wikidata
Mam Elizabeth Bowes-Lyon Edit this on Wikidata
Priod Y Tywysog Philip Edit this on Wikidata
Plant Y Tywysog Siarl, Y Dywysoges Anne, Y Tywysog Andrew, Y Tywysog Edward Edit this on Wikidata
Llinach House of Windsor, teulu Brenhinol y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Elizabeth II.jpg

Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary) (ganwyd 21 Ebrill 1926), Teitl Swyddogol :Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd.

Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mae Elisabeth II yn Bennaeth Gwladwriaeth yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Sant Lwsia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Saint Kitts a Nevis, lle mae hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Mae hi hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.

Teitlau[golygu | golygu cod y dudalen]

'Brenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Pennaeth Y Gymanwlad a Llwydrewog Eglwys Loegr' er marwolaeth ei thad Siôr VI ym 1952.

Cyfeirir ati yn arferol fel Ei Mawrhydi neu y Frenhines neu'r ddwy, ond mae gweriniaethwyr ac eraill ym Mhrydain nad ydynt yn cefnogi'r frenhiniaeth yn cyfeirio ati weithiau fel "Mrs Windsor." Yng Nghymru fe'i gelwir weithiau yn "yr hen Sidanes" ('Sidanes' oedd y llysenw Cymraeg, digon parchus, ar y frenhines Elisabeth I).

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Elisabeth yw merch hynaf Y Tywysog Albert, Dug Efrog (yn hwyrach, Brenin Siôr VI) a'i wraig Elisabeth Bowes-Lyon. Ganwyd y Dywysoges Elisabeth ar y 21 Ebrill 1926 yn 17 Stryd Bruton, Mayfair, Llundain. Gafodd ei bedyddio yng ngapel preifat ym Mhalas Buckingham gan Cosmo Lang, Archesgob Efrog, ar 29 Mai. Ei rhieni bedydd oedd ei nain a'i thaid, Siôr V a Brenhines Mari; ei modrybion y Dywysoges Mari a Lady Elphinstone; y Dywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn; a'i nain (ar yr ochr ei fam) Cecilia Bowes-Lyon, Duges Strathmore a Kinghorne. Cafodd Elisabeth ei henw gan ei mam a'r Frenhines Alexandra a Brenhines Mari. Lilibet oedd Elisabeth yn cael ei galw ymysg ei theulu.

Fe fuodd Elisabeth yn agos i'w thaid, Siôr V, ac fe fuodd ei phresenoldeb yn help mawr iddo wella o'i salwch yn 1929. Ei chwaer oedd y Dywysoges Margaret a anwyd yn 1930. Cafodd y ddwy ohonyn nhw eu haddysg gartref gan Marion Crawford (neu "Crawfie"). Yn hwyrach, cyhoeddodd Marion Crawford fywgraffiad o fywydau'r chwiorydd yn y llyfr The Little Princesses. Roedd y llyfr yn sgandal ac nid oedd y teulu yn hapus. Mae'r llyfr yn fanwl ac yn disgrifio hoffter Elisabeth at geffylau a chŵn ac yn disgrifio ymhellach fod gan Elisabeth agwedd gyfrifol. Dywedodd llawer o bobol eraill yr un peth. Disgrifiodd Winston Churchill y Dywsoges Elisabeth fel "cymeriad. Mae mwy o awdurdod amdani." Roedd ei chyfnither Margaret Rhodes yn ei disgrifio hi fel "merch hapus, synhwyrol sy'n ymddwyn yn dda".

Fel wyres y Brenin trwy ei thad, fe fuodd Elisabeth yn Dywysoges Brydeinig. Cafodd ei galw yn gyfreithlon fel Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Elisabeth o Efrog. Fe fuodd yn drydydd yn llinell olyniaeth i'r goron, tu ôl ei ewythr Edward, Tywysog Cymru, a'i thad. Pan y ganwyd y Dywysoges Elisabeth, bu gan y cyfryngau ddiddordeb mawr ond nid oes unrhyw rheswm gredu y byddai'r Dywysoges Elisabeth yn Frenhines yn y dyfodol. Yn 1936, bu'r Brenin Siôr V farw. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn ymddiswyddodd y Brenin newydd fel Brenin ac aeth Elisabeth yn gyntaf yn llinell olyniaeth i'r goron. Newidwyd teitl y Dywysoges i "Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Elisabeth".

Yn Etifedd Tebygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er y symudwyd llawer o blant fel ifaciwîs, er mwyn dianc o Lundain a dinasoedd eraill a oedd yn cael eu bomio gan y Natsïaid, gwrthododd y fam Elisabeth yr awgrym am symud y teulu i Ganada. Yn ystod y rhyfel arosodd y teulu mewn Castell Windsor.

Yn 1940 gwnaeth y dywysoges Elisabeth, yn 14 oed, ei darllediad radio cyntaf, yn cyfeirio at blant eraill.

Priodas a Theulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd hi Philip Mountbatten ar 20 Tachwedd 1947 yn Abaty Westminster.

Teyrnasiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Esgyniad a Choroniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Datblygiad Parhaol y Gymanwlad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dadwladychiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Jiwbilî Arian[golygu | golygu cod y dudalen]

Jiwbilî Aur[golygu | golygu cod y dudalen]

Plant[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagflaenydd:
Siôr VI
Brenhines y Deyrnas Unedig
6 Chwefror 1952
Olynydd:
delliad