Twitter

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Twitter logo.svg
Math Preifat
Sefydlwyd 2006
Pencadlys San Francisco, California, UDA
Pobl blaenllaw Jack Dorsey, Cadeirydd
Evan Williams, Swyddog Prif Weithredol
Biz Stone, Cyfarwyddwr Creadigol
Diwydiant gwasanaeth rhwydwaith cymdeithasol symudol,
micro-flogio
Gweithwyr 43[1]
Gwefan http://twitter.com/

Gwefan rwydweithio cymdeithasol a meicro-flogio yw Twitter (weithiau Trydar mewn Cymraeg answyddogol), sy'n gadael i'w defnyddwyr anfon a darllen negeseuon defnyddwyr eraill (a elwir yn tweets yn y Saesneg), sef pytiau bach o destun o 140 nod neu lai. Arddangosir y negeseuon ar dudalen broffil yr awdur a chânt eu dosbarthu i danysgrifwyr yr awdur a elwir yn ddilynwyr. Gall yr awdur gyfyngu ar bwy sy'n gweld ei negeseuon, neu gall ganiatáu i bawb eu gweld. Ers diwedd 2009, gall defnyddwyr ddilyn rhestrau o awduron yn hytrach na dilyn awduron unigol.[2] Gall pob defnyddiwr drydar/switian ar wefan Twitter, negeseuon testun, neu raglen allanol. Er bod y gwasanaeth ei hun yn rhad ac am ddim, gall defnyddio'r gwasanaeth drwy neges destun gostio pris yr alwad ffôn.

Ers i'r gwasanaeth gael ei greu yn 2006 gan Jack Dorsey, mae enwogrwydd a phoblogrwydd Twitter wedi'i gynyddu'n fyd-eang. Weithiau caiff ei ddisgrifio fel "negeseuon testun y rhyngrwyd".[3]

Mae gan Wici Cymru gyfri trydar (@WiciCymru) sy'n ymgyrchu dros ryddhau gwybodaeth ar drwydded agored ac yn cefnogi prosiect Wicimedia, gan gynnwys y Wicipedia. Ceir hefyd @Wicipedia - sy'n drydariad awtomatig, sy'n hysbysu ei ddilynwyr o erthyglau newydd.

Hashnod[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Twitter, a defnydd o Twitter, wedi poblogeiddio'r arfer o roi hashnod cyn gair neu dalfyriad er mwyn creu cymuned o ddiddordeb o gylch pwnc neu ddigwyddiad benodol. Mae'r defnydd o'r hashnod hefyd wedi ei ddefnyddio i boblogeiddio ymgyrchoedd gwleidyddol yn ogysal â hybu busnes. Yn y Gymraeg, yr hashnod gyson mwyaf poblogaidd ei ddefnydd yw hashnod #yagym ('Yr Awr Gymraeg') a weinyddir gan gyfrif @YrAwrGymraeg gan Huw Marshall. Nid oes modd defnyddio marciau atalnodi fel symbolau yr ebychnod fel rhan o'r gair yn yr hashnod.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  D7: All Things Digital Conference opens with the Twitter team. NowPublic.
  2. There's a List for That blog.twitter.com. 30 Hydref 2009. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010
  3. Swine flu's tweet tweet causes online flutter 29 Ebrill 2009. Leslie D'Monte. Business Standard. Adalwyd ar 29 Mai 2009

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Net template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.