Y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Y Tywysog Philip, Dug Caeredin | |
---|---|
Ganwyd |
Philip of Greece and Denmark 10 Mehefin 1921 Mon Repos |
Man preswyl | Palas Buckingham, Castell Windsor, Castell Balmoral, Tŷ Sandringham, Palas Holyrood, Clarence House |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pendefig, person milwrol, chwaraewr polo, gwleidydd |
Swydd | Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, arlywydd |
Cyflogwr | |
Tad | Prince Andrew of Greece and Denmark |
Mam | Princess Alice of Battenberg |
Priod | Elisabeth II |
Plant | Y Tywysog Siarl, Y Dywysoges Anne, Y Tywysog Andrew, Y Tywysog Edward |
Llinach | Mountbatten family |
Gwobr/au | Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Croix de guerre 1939–1945, Urdd Rhosyn Wen y Ffindir, Uwch Groes Urdd y Condor o'r Andes, Cadwen Frenhinol Victoria, Medal Albert, Urdd yr Eliffant, Uwch Goler Urdd Tywysog Harri, Urdd Seland Newydd, President's Medal, Knight of the Order of Australia, Grand Cordon of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, cyflwyniad arbennig, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Grand Cross of the Military Order of Christ, Grand Cross of the Military Order of Avis, Grand Cross of the Military Order of the Tower and Sword, Urdd Brenhinol y Seraffim, Medal Pen-blwydd ar achlysur 25 mlynedd ers sefydlu Ymerodraeth Iran, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Uwch Croes Urdd Siarl III, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria, Grand Cross of the Order of Merit of the Republic of Poland |
Mae'r Tywysog Philip, Dug Caeredin KG KT OM GBE AC QSO PC (Philip Mountbatten; anwyd y Tywysog Philip o Wlad Groeg a Denmarc, 10 Mehefin, 1921) yn ŵr i'r Brenhines Elisabeth II. Cafodd Philip eni yn Mon Repos, Corfu, Gwlad Groeg.[1]
Roedd yn wreiddiol yn dywysog brenhinol Gwlad Groeg a Denmarc.Ers iddo newid ei genedligrwydd, y mae'n cael ei adnabod fel Philip Mountbatten.
Ar 19 Tachwedd 1947 fe'i gwnaed yn Farchog y Gardas Aur,[2] a chael yr hawl i gael ei gyfeirio ato gyda'r arddull "Uchelder Brenhinol".[3] Ar 20 Tachwedd 1947 priododd y Dywysoges Elizabeth, edling y Brenin Siôr VI, a'i ddyrchafu yn Ddug Caeredin, Iarll Meirionnydd a Barwn Greenwich. Cafodd ei urddo yn Dywysog y Deyrnas Unedig ym 1957.
Bu'r Tywysog Philip ar wasanaeth gweithredol yn y Llynges Frenhinol drwy gydol yr Ail Ryfel Byd. Ar ddiwedd y rhyfel oedd ar y llong ryfel HMS Whelp yn y Môr Tawel, a fu'n bresennol ym Mae Tokyo ar gyfer ildio Siapan ar 2 Medi 1945.
Ef oedd yr aelod cyntaf o'r Teulu Brenhinol Prydeinig i gael ei gyfweld ar y teledu ym mis Mai 1961. [4] Mae wedi teithio gyda'r Frenhines ar bob un o'i theithiau brenhinol.
Mae gan Y Frenhines Elizabeth a'r Tywysog Philip pedwar o blant: Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru; Y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol; Y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog a'r Tywysog Edward, Iarll Wessex. Mae ganddynt hefyd wyth o wyrion a phedwar o or-wyrion.